Gwasanaethau Myfyrwyr yn dathlu achrediad ansawdd
Mae Gwasanaethau Myfyrwyr y Brifysgol wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol ar gyfer y cyngor ac arweiniad mae’n ei roi i chi, y myfyriwr. Yn ddiweddar bu Gwasanaeth Myfyrwyr yn llwyddiannus i gyrraedd y Safon Matrix, sydd yn safon ansawdd unigryw yn y DU ar gyfer gwasanaethau gwybodaeth, cyngor ac arweiniad.
I gyrraedd y Safon Matrix, cafodd Gwasanaethau Myfyrwyr eu hasesu dros ddau ddiwrnod ar ffurf cyfweliadau, a chyda thystiolaeth ysgrifenedig ategol, aseswyd o ran pedair elfen: Arweinyddiaeth a Rheolaeth; Adnoddau; Darparu Gwasanaeth, a Gwella Ansawdd yn Barhaus.
Meddai Maria Lorenzini, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr:
“Rydym yn falch iawn i fod wedi cyrraedd y safon ansawdd allanol yma. Mae’n rhoi tystiolaeth o’r ymrwymiad i wella’r gwasanaeth yn barhaus ar hyd a lled Gwasanaethau Myfyrwyr, ac yn rhan o’n proses barhaus o sicrhau bod ein gwasanaethau o ansawdd uchel ac yn briodol i anghenion ein corff amrywiol o fyfyrwyr.
“Rhoddodd yr asesydd ganmoliaeth arbennig i’r Ganolfan Gwasanaethau Myfyrwyr am ei chryfder wrth ddarparu amrywiaeth eang o wasanaethau integredig, a ategir gan system gyfeirio effeithiol a gweithio cynhaliol ar draws gwasanaethau.
“Llongyfarchiadau i bawb yn y Ganolfan Gwasanaethau Myfyrwyr, a llawer o ddiolch i’r myfyrwyr a’r staff a gymerodd ran yn y drefn asesu.”
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mehefin 2014