Help gyda Mathemateg ac Ystadegau
Mae'r Ganolfan Sgiliau Astudio yn cynnig gwasanaeth ymgynghori mathemateg ac ystadegau sy'n rhoi cyfle ichi drafod unrhyw gwestiynau am fathemateg ac ystadegau sydd gennych. Gallwch gael cefnogaeth trwy ymarferion, taflenni tiwtorial, hen bapurau arholiad a chyngor ar ddefnyddio pecynnau ystadegol (Excel ac SPSS).
Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi derbyn nifer cynyddol o geisiadau am apwyntiadau unigol ac rydym bellach yn cynnig apwyntiadau ochr yn ochr â'n sesiynau galw heibio. Rydym hefyd wedi cynyddu nifer y dyddiau lle mae posib galw heibio.
Mae cefnogaeth galw heibio ar gael yn ystod y tymor yn Ystafell 401a, 2il lawr, Adeilad Rathbone, ar yr amseroedd canlynol:
Prynhawniau Mawrth 15:00 – 16:30
Amser cinio dydd Mercher 12:00 – 13:30
Prynhawniau Iau 15:00 – 16:30
Gellir trefnu apwyntiadau o hyd at 20 munud gyda thiwtor hefyd. Mae apwyntiadau dwbl ar gael os ydych yn teimlo fod arnoch angen mwy nag 20 munud i drafod eich anghenion. Er mwyn gwneud apwyntiad, llenwch y ffurflen archebu ar https://www.bangor.ac.uk/studyskills/maths_stats.php.cy
Dyddiad cyhoeddi: 5 Hydref 2018