Help gyda Mathemateg ac Ystadegau
Mae'r Ganolfan Sgiliau Astudio yn cynnig gwasanaeth cynghori mathemateg ac ystadegau sy'n rhoi cyfle i chi drafod unrhyw gwestiynau ynglŷn â mathemateg ac ystadegau a all fod gennych. Gallwch gael cefnogaeth trwy ymarferion, taflenni tiwtorial a hen bapurau arholiad a chyngor ar ddefnyddio pecynnau ystadegol (Excel ac SPSS).
Rydym yn cynnig apwyntiadau unigol 20 neu 40 munud yn ystod y tymor yn Ystafell 401a, 2il lawr, Adeilad Rathbone, ar yr adegau canlynol:
Prynhawn Mawrth 15:00 – 16:30
Amser cinio dydd Mercher 12:00 – 13:30
Prynhawn Iau 15:00 – 16:30
I wneud apwyntiad, llenwch ein ffurflen archebu yn https://www.bangor.ac.uk/studyskills/maths_stats.php.en
Mae gennym wasanaeth cynghori galw heibio mathemateg ac ystadegau hefyd - edrychwch ar yr amseroedd galw heibio diweddaraf
Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2019