Lwfansau Myfyrwyr Anabl (DSAs) - mae ein Canolfan Fynediad yma i'ch helpu!
Pwy ydym ni?
Pan sefydlwyd y ganolfan, hon oedd y Ganolfan Asesu Anghenion gyntaf yng Nghymru. Hon yw'r unig Ganolfan Asesu ym Mhrifysgol Bangor ac oherwydd ein perthynas waith agos, mae gennym wybodaeth fanwl am gwricwlwm a chyfleusterau'r Brifysgol
Beth allwn ni ei wneud i chi
Gallwn roi cymorth i unrhyw fyfyriwr o Brifysgol Bangor gyda’u cais am LMA. Mae hyn yn cynnwys rhoi cefnogaeth i lenwi’r ffurflen gais, cysylltu â Chofnodion Myfyrwyr a gallu ateb y rhan fwyaf o gwestiynau fydd gennych efallai ynghylch y broses LMA.
Byddwn hefyd yn cadw copi o’r ffurflen rhag ofn y bydd yn mynd ar goll yn y post.
Beth sydd angen i chi ddod gyda chi
Cyn y gellwch wneud cais am LMA, bydd angen i chi ddod â chopi o’ch tystiolaeth ddiagnostig neu dystiolaeth feddygol gyda chi, ynghyd â’ch rhif cyfeirio cwsmer. Mae’r rhif hwn i’w gael ar unrhyw lythyr oddi wrth y corff sy’n eich cyllido, megis eich llythyr benthyciad myfyriwr.
Sut gallaf drefnu apwyntiad?
Gallwch wneud apwyntiad i gael cefnogaeth gyda’ch cais drwy gysylltu â ni drwy e-bost neu ar y ffôn. Os ydych wedi gweld Cynghorwr, efallai y bydd ef/hi eisoes wedi trefnu apwyntiad i chi.
Sut mae dod o hyd i ni
Rydym ar lawr cyntaf y brif fynedfa i Neuadd Rathbone (Gwasanaethau Myfyrwyr). Mae croeso i chi roi galwad i ni (01248 388101), anfon e-bost (canolfan_access@bangor.ac.uk), neu alw i mewn i wneud apwyntiad
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2018