PWYSIG DARLLENWCH – archebu eich addasiadau i arholiadau erbyn 6 Ebrill 2017
Mae amserlen arholiadau mis Mai bellach ar gael ar-lein i fyfyrwyr (https://www.bangor.ac.uk/ar/main/assessment/amserlen-arholiadau/
Mae’n rhaid i fyfyrwyr gyda Chynlluniau Cefnogi Dysgu Personol (CCDP) archebu'r addasiadau rydych eu hangen cyn POB cyfres o arholiadau diwedd semester cyn gynted ag y cyhoeddir yr amserlen arholiadau.
E-bostiwch arholiadau@bangor.ac.uk erbyn dydd Iau, 6 Ebrill gyda'r manylion canlynol:
- Eich enw a'ch rhif myfyriwr.
- Eich blwyddyn astudio ac enw eich rhaglen radd.
- Cod modiwl yr arholiad(au) rydych yn eu sefyll, ynghyd â'r dyddiad y byddwch yn eu sefyll.
- PA RAI o'r addasiadau o'ch PLSP rydych eu hangen ym mhob un o'r arholiadau y byddwch yn eu sefyll.
Unwaith y derbynnir eich cais e-bost bydd y Swyddfa Arholiadau’n anfon copi atoch drwy e-bost o’ch addasiadau arholiadau er mwyn cadarnhau eu bod wedi’u gwneud. Fodd bynnag, os hoffech drafod eich trefniadau gydag aelod staff o'r Swyddfa Arholiadau, a fyddech cystal â nodi hynny yn eich e-bost ac fe drefnir apwyntiad i chi.
PWYSIG:
- A fyddech cystal ag archebu'ch trefniadau cyn gynted ag y bo modd. Os na fyddwch yn gwneud hynny erbyn y dyddiad penodedig (Dydd Iau, 6 Ebrill), ni allwn sicrhau y gallwn wneud yr addasiadau i chi. Gweler: http://www.bangor.ac.uk/studentservices/disability/exams.php.cy
- Myfyrwyr Gwyddorau Gofal Iechyd: cysylltwch â’ch Ysgol ynghylch addasiadau i arholiadau.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch yr uchod, anfonwch e-bost gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk neu ffoniwch 01248 383620 os gwelwch yn dda.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mawrth 2017