Wythnos o Ddigwyddiadau Menter Cyffrous! 13 – 19 Tachwedd
Cynhelir yr Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang bob blwyddyn, a bydd miloedd o brifysgolion, colegau ac ysgolion ar hyd a lled y byd yn cymryd rhan. Mae'n gyfle i ddathlu’r holl weithgarwch entrepreneuraidd sy’n digwydd o flwyddyn i flwyddyn, ac mae'n rhoi cyfleoedd difyr a chyffrous i bobl wella eu sgiliau menter.
Eleni,bydd B-Fentrus yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ii ddathlu menter a Entrepreneuriaeth, gan gynnwys:
- Dewch i Gyfarfod yr Entrepreneuriaid - bydd Becky Start, perchenog Stark Export Focus a Rhys Mwyn, Rheolwr cerddoriaeth, cyhoeddwr a rheolwr label recordio yn ogystal â bod yn archeoloegydd, ysgrifennydd ac awdur, yn siarad am eu siwrneuon entrepreneuraidd
- Cynhyrchu Syniadau i Fusnes - gweithdy rhyngweithiol fydd yn archwylio sut y gall myfyrwyr gynhyrchu syniadau am fusnes ac yn helpu i ddatblygu syniad mewn ffordd hwyliog a gweledol gan ddefnyddio’r Cynfas Cysyniad Simply Do Ideas.
- Sut i Lwyddo efo’ch Stondin - gweithdy unigryw yma i helpu’r rhai sydd am gael stondin yn y Farchnad Nadolig Myfyrwyr i wneud argraff gyda’i arddangosfa a gwerthu mwy.
- Prisio i wneud Elw - sesiwn i helpu i weithio allan sut i brisio cynnyrch neu wasanaeth a'r ffactorau sydd angen eu cymryd i ystyriaeth.
- Lifestart gan Virgin Media a Virgin Start Up – platfform newydd sbon sy’n cynnig sialensau i fyfyrwyr Prifysgol Bangor a lle gellir ennill gwobrau anhygoel.
- Dathlu Syniadau Mawr Cymru – Cystadleuaeth Cenedlaethol ac Arddangosiad Cymru o Ddawn Entrepreneuraidd i bobl 16 -25 oed.
- Bydd apwyntiadau mentora ar gael i'r rhai sy'n dymuno trafod datblygu syniadau busnes gyda mentor busnes.
I gael gwybodaeth am unrhyw un o'r gweithgareddau uchod, ewch FyMangor (Cyflogadwyedd, Gweithdai a Gweithgareddau) neu eu tudalen Facebook.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2017