Iechyd
I gael mwy o wybodaeth am faterion sy'n ymwneud ag Iechyd Myfyrwyr, gweler ein Llyfryn Gofal Iechyd Myfyrwyr ar-lein.
Mae angen i'r holl fyfyrwyr gofrestru â Meddyg Teulu lleol a dylent wneud hynny cyn gynted ag y bo modd yn ystod eu tymor cyntaf ym Mangor. Isod, ceir manylion y meddygfeydd lleol a'r gwasanaethau iechyd arbennig i fyfyrwyr;
- Sut i gofrestru gyda meddyg teulu
- Canolfan Iechyd Myfyrwyr - Canolfan Feddygol Bodnant
- Nyrs Iechyd Myfyrwyr
- Gofal Meddygol Brys
- Ardystio
- Clwy'r Pennau
Sut i gofrestru gyda meddyg teulu
Rydych
yn rhydd i ddewis y feddygfa y dymunwch gofrestru ynddi ac, wrth gwrs,
os ydych eisoes yn byw yn lleol, efallai y dewiswch ddal yn gofrestredig â'ch meddyg persennol. I gofrestru â meddygfa, mae angen i
chi lenwi ffurflen GMS1, ac amgaeir un o'r ffurfleni hyn.
Er mwyn darparu cyfleusterau meddygol nad ydynt ar gael fel rheol mewn
meddygfa gyffredinol, mae'r Brifysgol wedi dod i gytundeb â meddygfa
leol i ddarparu gwasanaethau arbennig ar gyfer myfyrwyr. Delir y cytundeb
hwn ar hyn o bryd gan y Meddygon Morgan, Jones, Williams, Elliott, Hughes, Cumming, Hesketh, A Parry, C Parry ac Arfon o Ganolfan Feddygol Bodnant, Rhodfa Menai, Bangor Uchaf (gweler
y map ynghlwm).
Canolfan Iechyd Myfyrwyr - Canolfan Feddygol Bodnant
Mae darpariaeth arbennig i fyfyrwyr yn cynnwys:
Clinigau ar gyfer myfyrwyr yn unig bob diwrnod gwaith.
Mae'r rhain yn ychwanegol at y sesiynau arferol y gall myfyrwyr sydd wedi'u
cofestru â'r feddygfa fynd iddynt.
Mae Nyrs Iechyd Myfyrwyr ar gael ddwywaith y dydd i ymdrin â Chynllunio
Teulu, brechiadau, archwiliadau iechyd etc.
Cewch archwiliadau meddygol arbennig a thystysgrifau am ddim ar gyfer
cyrsiau'r Brifysgol ac os byddwch yn sâl yn ystod y tymor.
Mae'r cyfleusterau hyn ar gael i'r holl fyfyrwyr pa feddygfa bynnag
y maent wedi'u cofrestru ynddi.
Rhifau Ffon
Apwyntiadau 364492
Materion Brys yn unig 364567
http://bodnantmedicalcentre.co.uk
Gwasanaeth Canlyniadau
Bydd canlyniadau unrhyw brofion a wnaed yn y feddygfa h.y. gwaed / dwr ar gael naill ai ar y ffôn neu drwy alw i mewn rhwng 12.30 p.m. a 2.30 p.m. o ddydd Llun tan ddydd Gwener. Ffôn: 01248 353512
Gellir trefnu apwyntiadau ar 01248 364492 rhwng 8 am - 6.30 pm o ddydd Llun tan ddydd Gwener; fodd bynnag, mae'r feddygfa'n ymdrechu i'r eithaf i weld y myfyrwyr hynny sy'n cyrraedd yn ystod y sesiwn. Os oes gormod wedi dod i sesiwn, gofynnir i rai nad ydynt yn achosion brys ddychwelyd i'r sesiwn gyda'r nos neu i sesiwn y diwrnod canlynol.
Gall myfyrwyr ddod i'r sesiynau hyn i gael triniaeth
i anhwylderau llym, problemau meddygol cyffredinol, etc. Hefyd, rhoddir
tystysgrifau meddygol ar gyfer materion Prifysgol, ac archwiliadau meddygol
ar gyfer gweithgareddau megis plymio / teithio yn rhad ac am ddim yn ogystal
yn ystod y sesiynau hyn.
Cynghorir myfyrwyr nad ydynt wedi cofrestru ym Meddygfa Bodnant ac sydd
angen triniaeth i weld y meddyg y maent wedi cofrestru ag ef/â hi.
Fodd bynnag, gallant ddefnyddio'r Gwasanaethau Iechyd Myfyrwyr o hyd ar
gyfer archwiliadau meddygol, tystysgrifau, etc. yn rhad ac am ddim.
Dylai pob myfyriwr lenwi'r holiadur Iechyd Myfyrwyr (a amgaewyd gyda llenyddiaeth y Brifysgol) a'i anfon yn ôl i Feddygfa Bodnant cyn gynted ag y bo modd. Gofynnwn i'n holl glientiaid newydd ddod i'r feddygfa i gael archwiliad cyn gynted â phosibl.
Gofal Meddygol Brys
Y tu allan i oriau agor arferol mae gofal meddygol BRYS ar gael drwy ffonio'r rhif canlynol - 0845 850 1362.Gellir cael cyngor meddygol ar faterion nad ydynt yn rhai brys 24 awr y dydd gan NHS Direct ar 0845 4647.
Ardystio
Yn dilyn salwch, efallai y bydd y Coleg yn gofyn i chi ddangos Tystysgrif Feddygol i egluro eich absenoldeb.Yn achos anhwylderau o lai na 7 niwrnod, mae ffurflenni hunan-ardystio ar gael gan unrhyw feddyg teulu yn yr ardal neu mae myfyrwyr yn gallu printio un eu hunain:
http://www.hmrc.gov.uk/forms/sc2.pdf
Clwy'r Pennau
Dylai myfyrwyr blwyddyn gyntaf edrych beth yw statws
eu brechiad MMR gyda'u meddyg teulu gartref cyn iddynt ddechrau blwyddyn academaidd 2005-06.