Llety - Darpar fyfyrwyr gydag anableddau
Mae amryw o ystafelloedd en-suite ar Safle Ffriddoedd wedi cael eu cynllunio ar gyfer mynediad i gadeiriau olwyn, gyda cheginau'n cynnwys stofiau, arwynebau gwaith a sinciau ar lefel isel. Mae rampiau, lifftiau cadair olwyn a chyfleusterau cawod hwylus wedi cael eu gosod mewn nifer o neuaddau i roi amrywiaeth dewis i fyfyrwyr.
Mewn nifer o ystafelloedd ar wahanol safleoedd ceir systemau larwm gweledol a pagers dirgrynol ar gyfer myfyrwyr sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw.
Mae'r llety sydd ar gael yn cynnwys telerau arlwyol neu hunan-arlwyol mewn ystafelloedd safonol neu en-suite, a cheir cyfleusterau mynediad at y rhyngrwyd mewn nifer o ystafelloedd. Mae gennym un Neuadd hefyd sy'n benodol ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Wrth wneud cais am le mewn Neuadd Breswyl, byddem yn eich annog yn gryf i roi gwybod am eich anabledd fel y gellir gwneud unrhyw drefniadau angenrheidiol ar eich cyfer.
Am fwy o wybodaeth, ewch i Llety i Myfyrwyr gydag anableddau.