Mwy o wybodaeth
Cynghorwyr Iechyd Meddwl
Fiona Rickard
Cynghorwr Iechyd Meddwl
Cheryl Parkinson
Cynghorwr Iechyd Meddwl
Sioned Evans
Cynghorwr Iechyd Meddwl
Rydym yn cynnig apwyntiadau Microsoft Teams, ffôn ac e-bost.
Ar we-dudalen Cynghorwyr Iechyd Meddwl ceir hefyd lawer o wybodaeth ddefnyddiol a chysylltiadau i adnoddau ar-lein.
I gael cyngor iechyd meddwl neu feddygol mwy brys, cysylltwch â'ch Meddygon Teulu neu'r Gwasanaethau Brys.
Taflenni a Gwybodaeth Ddefnyddiol
Y Llyfr Bach Glas o rifau buddiol - Iechyd Meddwl
Mae Sesiynau Galw Heibio Iechyd Meddwl ar-lein
Brynhawn Mercher rhwng 2pm a 3.30pm
Yn wyneb y sefyllfa bresennol mae Cheryl, Fiona a Sioned yn cymryd ein sesiwn galw heibio wythnosol ar-lein. Bydd yn rhaid i ni ei weithio ychydig yn wahanol fel y gallwn reoli ac ymateb yn deg i fyfyrywr sydd angen siarad â ni.
E-bostiwch cynghorwriechydmeddwl@bangor.ac.uk gan nodi amlinelliad eich sefyllfa a sut mae`n well gennych i ni gysylltu â chi (galwad ffon, galwad fideo 'Microsoft Teams', neu e-bost). Yna bydd Cynghorydd Iechyd Meddwl yn cysylltu â chi.
Neu
fe allech chi ymuno â ni yn ein trafodaeth grŵp, a gynhelir trwy ‘Microsoft Teams’ ymlaen llaw, 1pm - 1:30pm, gweithio ochr yn ochr â Connect@Bangor - svbconnect@undebbangor.com, i siarad am bob agwedd ar lesiant. Nid ydych o dan unrhyw bwysau i siarad; gallwch wrando, ac anfon neges breifat at un o'r Cynghorwyr Iechyd Meddwl i ofyn am apwyntiad yn y sesiwn galw heibio sy'n dilyn.
Fideo
Ffeindiwch allan fwy am y gefnogaeth yr ydym yn gynnig.