Duw a Gwyddoniaeth
Ar 27 Ebrill fe wnaeth Cymdeithas Islamaidd Bangor gynnal digwyddiad yn Pontio a oedd yn agored i'r holl staff a myfyrwyr. Roedd y digwyddiad hwn yn un o lawer o weithgareddau a gynhaliwyd gan y Gymdeithas Islamaidd ym Mhrifysgol Bangor. Daeth myfyrwyr a staff Moslemaidd a rhai heb fod yn Foslemiaid i'r digwyddiad, yn ogystal ag aelodau o'n cymuned leol. Prif ran yr achlysur oedd y sgwrs ar "Duw a Gwyddoniaeth" a roddwyd gan Jamshed Javed, gweithredwr Moslemaidd uchel ei barch o Gaerdydd. Roedd y sgwrs yn ymdrin â safbwynt Islam o ran "gwyddoniaeth" a hanes Moslemiaid yn y byd gwyddonol. Cafodd y sgwrs dderbyniad da ac roedd yn cynnwys sawl ystyriaeth bwysig a oedd o ddiddordeb i'r gynulleidfa amrywiol.
Yn ogystal â'r sgwrs, fe wnaeth y Gymdeithas Islamaidd wobrwyo'r myfyrwyr hynny a oedd wedi dilyn cwrs ar yr iaith Arabeg a gynhelir gan y Gymdeithas. Ymhellach, cafodd aelodau'r Gymdeithas Islamaidd eu llongyfarch a'u gwobrwyo am eu gwaith caled.
Yn olaf, fe wnaeth y Gymdeithas Islamaidd wahodd eu gwesteion i'r parti cinio ar ôl y sgwrs i drafod cynnwys cyflwyniad y siaradwr a phynciau eraill yn ymwneud ag Islam. Roedd y Gymdeithas Islamaidd yn hynod falch o'r cymorth a roddodd Undeb y Myfyrwyr a Phrifysgol Bangor iddynt wrth iddynt drefnu eu digwyddiad, ac maent yn edrych ymlaen at gydweithio yn y dyfodol fel rhan o adeiladu cymuned gynhwysol ym Mangor.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mai 2016