Gwirfoddoli fel Arweinydd Cyfoed
Gwnewch gais ar-lein i fod yn Arweinydd Cyfoed ar gyfer y flwyddyn nesaf a gwella eich CV drwy helpu myfyrwyr newydd i ymgartrefu ym Mangor.
Daw Arweinwyr Cyfoed i wirfoddoli o bob ysgol academaidd ac mae disgwyl iddynt fod yn fodelau rôl cadarnhaol. Maent yn cefnogi myfyrwyr newydd trwy gysylltu â nhw cyn iddynt gyrraedd, trwy gynnal digwyddiadau cymdeithasol yn ystod y penwythnos cyrraedd a'r wythnos groeso, trwy fynd â myfyrwyr ar deithiau o amgylch y campws, a thrwy helpu gyda digwyddiadau cynefino. Mae ysgolion yn trefnu rota i ysgafnhau'r llwyth gwaith a darperir hyfforddiant i sicrhau bod yr Arweinwyr Cyfoed yn deall y rôl ac yn gwybod at bwy i gyfeirio myfyrwyr newydd i chwilio am gymorth.
Mae'r profiad o fod yn Arweinydd Cyfoed yn gyfle gwych i wella eich cyflogadwyedd a gall arwain at swyddi cyflogedig yn ystod diwrnodau agored a digwyddiadau eraill yn y brifysgol. Cewch bwyntiau Gwobr Cyflogadwyedd Bangor am fynychu hyfforddiant ac am wirfoddoli fel Arweinydd Cyfoed. Mae'r Brifysgol yn cydnabod rôl Arweinwyr Cyfoed drwy gyflwyno tystysgrifau mewn seremoni flynyddol, a thrwy wobr Arweinydd Cyfoed y Flwyddyn a gwobr yr Arweinydd Cyfoed Mwyaf Effeithiol.
I gael gwybod mwy am y cynllun, ewch i wefan Arweinwyr Cyfoed, neu e-bostiwch arweinwyrcyfoed@bangor.ac.uk .
Dyddiad cyhoeddi: 18 Hydref 2019