Ysgrifennwch yn well, ysgrifennwch yn awr
Mae'r Ganolfan Sgiliau Astudio yn cynnig apwyntiadau unigol fel y gallwch gwrdd ag aelod staff yn breifat i drafod eich gwaith ysgrifennu academaidd. Gyda dyddiadau cyflwyno gwaith yn nesáu, dyma'r amser gorau i ofyn y math o gwestiynau am eich gwaith ysgrifennu nad ydych efallai wedi eu gofyn hyd yma, a thrafod fersiwn drafft cyn ei gyflwyno.
Bydd y cyfarfodydd un i un dan eich arweiniad chi gydag aelod o'n tîm o gynghorwyr astudio a mentoriaid ysgrifennu i gyfoedion yno i'ch hwyluso. Gall y cyfarfod bara am hyd at bumdeg munud. Mae'r mentoriaid wedi elwa o gael profiad uniongyrchol o ysgrifennu gwaith a asesir ac maent wedi cael eu hyfforddi i weithio ochr yn ochr ag ysgrifenwyr ym mhob pwnc, yn ogystal ag awgrymu dulliau i'ch helpu i ddechrau ysgrifennu ac i ysgrifennu'n well.
Rydym yn cydweithio gyda myfyrwyr israddedig, ôl-radd, meistr ac ymchwil, a gyda myfyrwyr sy'n cael pob mathau o raddau. Felly os ydych wedi ystyried trafod eich gwaith ysgrifennu ond heb gymryd y cam eto, dyma wahoddiad i chi. Gellwch ddefnyddio eich apwyntiad i:
- drafod canllawiau aseiniad a chwestiynau;
- datblygu ymateb cychwynnol i’r cwestiwn;
- edrych ar eich proses ysgrifennu;
- ystyried sut i lunio neu ad-drefnu eich syniadau;
- canolbwyntio ar sut yr ydych yn defnyddio deunydd darllen;
- mireinio eich brawddegau a geiriad eich gwaith.
I drefnu cyfarfod gydag aelod o'n tîm, archebwch ar-lein http://studyskills.bangor.ac.uk/writing-appointment-form.php.en, neu dewch draw i'r dderbynfa yn Rathbone i weld beth sydd ar gael.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Hydref 2014