Cefnogi myfyrwyr yn Wrecsam
Mae'r tîm cefnogi myfyrwyr yn darparu amrywiaeth o wasanaethau cymorth ymarferol, y gellir cael mynediad i bob un ohonynt ar-lein, gyda chyfarfodydd wyneb yn wyneb ar gael drwy MS Teams.
Gallwn helpu gyda:
Cyngor ariannol
Dylai eich amser yn y Brifysgol fod yn bleserus ac yn werth chweil, ac mae Prifysgol Bangor yn ceisio rhoi gwybodaeth a chefnogaeth i chi a fydd yn eich galluogi i fanteisio i'r eithaf ar eich profiad yn y Brifysgol. Mae’n hynod o bwysig nad yw pryderon ariannol diangen yn amharu ar eich amser yma.
Mae'r Uned Cefnogaeth Ariannol yn rhan o’r tîm Cefnogi Myfyrwyr, a gall ein saff profiadol roi cyngor, gwybodaeth ac arweiniad ar bob agwedd o gyllid myfyrwyr gan gynnwys:
- Cyllid israddedig ar gyfer cyrsiau llawn amser a rhan amser
- Cyrsiau Israddedig wedi eu cyllido gan y GIG
- Cyllid ôl-raddedig
- Cyllidio ar gyfer cyrsiau Diploma Addysg Uwch ac MSc GIG
- Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau Prifysgol
- Cyllid i Fyfyrwyr Presennol
- Cronfa Caledi a Grantiau Argyfwng
- Cyllidebu
- Cefnogaeth i fyfyrwyr sydd wedi Ymddieithrio
- Cefnogi Myfyrwyr sy’n Ofalwyr
Ffôn: 01248 38 3566 / 3637
Ebost: cymorthariannol@bangor.ac.uk
Tai yn y sector rhentu preifat
Mae’r Swyddfa Tai Myfyrwyr yn ymdrin â llety preifat ar rent i fyfyrwyr yn bennaf
- Mae croeso i chi hefyd gael mynediad at yr un gefnogaeth (e.e. cyfarwyddyd ynghylch contract ac yn y blaen) o Swyddfa Tai Myfyrwyr Bangor fel y nodir uchod – efallai y bydd yn haws i chi gysylltu â ni dros y ffôn neu drwy e-bost neu Skype/MS Teams
- Gellwch hefyd lawrlwytho Canllawiau Myfyrwyr i Lety Preifat, sydd wedi’i gynllunio i’ch helpu wrth chwilio am eich tŷ cyntaf yn y sector rhentu preifat. Mae’n tynnu sylw at y pethau i edrych amdanynt a’ch hawliau fel tenant. Mae croeso i chi ddefnyddio’r canllawiau a’r rhestrau gwirio niferus i fyfyrwyr sydd i’w cael yma (e.e. Rhestr Wirio Chwilio Am Dŷ; Cytundebau Tenantiaeth – Canllawiau i Fyfyrwyr; Symud i mewn – rhestr wirio; Rhestr wirio Symud Allan; Canllawiau i Fyfyrwyr yn y Gymuned).
- Mae Prifysgol Glyndŵr yn garedig iawn wedi cytuno i’n myfyrwyr yn Wrecsam allu gweld eu rhestri llety preifat, sydd i’w cael yma. Os ydych angen manylion cyswllt Tîm Safonau Tai Cyngor Wrecsam, cysylltwch â Swyddfa Tai Myfyrwyr Bangor ar taimyfyrwyr@bangor.ac.uk.
Ffôn: 01248 38 2034 / 2883
Ebost: taimyfyrwyr@bangor.ac.uk
Gadael eich astudiaethau dros dro
Ydych chi'n meddwl am adael eich astudiaethau neu gymryd egwyl dros dro/eu gohirio (e.e. am resymau iechyd)?
Os felly, rydyn ni’n argymell yn gryf eich bod chi’n trafod y mater gydag aelod o staff cyn gwneud penderfyniad. Bydd yr aelod staff yn gwrando ar eich pryderon, ac yn rhoi gwybodaeth i chi a allai eich helpu i ddatrys unrhyw broblemau, a byddant yn eich arwain drwy'r prosesau angenrheidiol ar ôl i chi wneud penderfyniad.
Yn achos myfyrwyr ôl-radd, bydd yr ysgol academaidd yn ymdrin â'r broses, a dylech wneud apwyntiad i weld eich cyfarwyddwr cwrs neu oruchwyliwr i drafod y sefyllfa.
Yn achos myfyrwyr israddedig, oherwydd achrediad proffesiynol y cyrsiau, ymdrinnir â'r broses fel rheol yn eich ysgol academaidd, gan fod yn rhaid iddynt wneud y trefniadau angenrheidiol gyda'r sefydliadau allanol. Fe'ch cynghorir i gysylltu â'ch tiwtor personol yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, mae croeso o hyd i chi drafod goblygiadau cyffredinol eich opsiynau gyda'r cynghorwyr myfyrwyr. Cysylltwch â ni ar cefnogimyfyrwyr@bangor.ac.uk, neu ffoniwch 01248 382072. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi edrych ar ein prif dudalennau gwe hefyd. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth fwy cyffredinol am ein polisi ar gyfer torri ar draws astudiaethau ac adrannau ar bethau i'w hystyried, yn enwedig i'r rheini ohonoch sy'n derbyn unrhyw gyllid gan Gyllid Myfyrwyr.
Os yw eich ymholiadau yn ymwneud â chyllid y GIG, bydd yn ddefnyddiol i chi edrych ar y telerau a'r amodau sy'n gysylltiedig â chynllun bwrsariaeth y GIG, a gellwch weld copi ohono yma.
Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar gyfer Datgeliadau Aflonyddu a Thrais Rhywiol
Credwn na ddylai unrhyw fyfyriwr brofi trais rhywiol, aflonyddu na throseddau casineb o unrhyw fath, ac nad yw hynny’n rhan arferol o brofiad myfyrwyr. Os ydych chi’n profi unrhyw fath o aflonyddu, a gyflawnir naill ai ar y campws neu oddi arno, neu gan rai sy'n gysylltiedig â'r brifysgol neu peidio, gallwn ddarparu cyfle chyfrinachol i chi, lle na chewch chi eich barnu, er mwyn siarad am beth sydd wedi digwydd, a byddwn yn eich cefnogi i symud ymlaen ym mha bynnag ffordd y teimlwch chi sydd orau i chi.
I gysylltu, e-bostiwch cynhwysol@bangor.ac.uk neu ffoniwch 01248 388021, neu gallwch roi gwybod am unrhyw fath o drais rhywiol, aflonyddu, trosedd casineb neu hiliaeth ar-lein drwy glicio yma.
I gael mwy o wybodaeth am bwnc penodol, gwelwch ein taflenni ar-lein.
Trais Rhywiol - Gwybodaeth i Fyfyrwyr
Cod Ymddygiad y Myfyrwyr
Seibrfwlio - Gwybodaeth i Fyfyrwyr
Cydraddoldeb Trawsrywiol i Fyfyrwyr
Diogelu eich Cyfrifon Cyfryngau Cymdeithasol
Rydym yn cymryd pob adroddiad o ddifri, ac mae ein Polisi Aflonyddu Myfyrwyr, ein Polisi Trais Rhywiol a'n Polisi a Chanllawiau Cydraddoldeb Trawsryweddol i Fyfyrwyr yn hyrwyddo diogelwch a lles ein holl fyfyrwyr.
Os nad ydych yn siŵr pa wasanaeth rydych chi ei angen, e-bostiwch cefnogimyfyrwyr@bangor.ac.uk.