Y broses: sut i atal neu dynnu'n ôl o astudio?
RHAID i fyfyrwyr sy'n cael eu hariannu gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol wneud cais i'w Hysgol academaidd i Dynnu'n ôl neu i Atal astudio.
Rhaid gwneud pob cais arall gan Israddedigion ar gyfer naill ai atal neu dynnu'n ōl o astudio trwy'r Tîm Cefnogi Myfyrwyr yng Ngwasanaethau'r Myfyrwyr gan ddefnyddio'r ffurflen briodol. Mae'n well gwneud hynny'n bersonol trwy gyfarfod ag ymgynghorydd i drafod y sefyllfa er o dan rai amgylchiadau mae'n bosib ei wneud dros y ffôn neu drwy e-bost.
Dylid hefyd ei wneud cyn gynted ag y bo modd ar ôl ichi benderfynu er mwyn lleihau unrhyw gordaliadau cyllid myfyrwyr.
Unwaith y bydd y ffurflen wedi'i chyflwyno, bydd Ymgynghorydd y Myfyrwyr yn:
- hysbysu'r staff perthnasol yn y brifysgol fel bo'n briodol i'ch amgylchiadau chi.
- hysbysu'r sefydliadau Cyllid Myfyrwyr lle bo hynny'n berthnasol
- cadarnhau gyda chi pan fydd hynny wedi'i gwblhau
- bydd yn cysylltu â'r rheiny sydd wedi atal astudio tua 2 fis cyn i chi ddychwelyd gyda'r wybodaeth angenrheidiol i chi ailddechrau'ch astudiaethau.
Os ydych chi wedi atal eich astudiaethau neu wedi tynnu'n ôl yn llwyr o astudio, bydd hefyd angen i chi roi gwybod i Gyllid Myfyrwyr. Mae hynny'n helpu osgoi / lleihau gordaliadau cyllid myfyrwyr a phroblemau gyda cheisiadau yn y dyfodol.
Os ydych chi'n trosglwyddo i brifysgol arall, dylech ohirio cysylltu â Chyllid Myfyrwyr hyd nes y byddwch wedi trosglwyddo'n llwyddiannus ac yna rhoi gwybod iddynt pa sefydliad rydych chi wedi trosglwyddo iddo.