Israddedigion
Pan fyddwch yn cwrdd ag un o'r Cynghorwyr Myfyrwyr (fel arfer Wendy neu Kim) yn y Tîm Cefnogi Myfyrwyr, byddant yn trafod eich amgylchiadau'n fwy manwl gyda chi er mwyn i chi allu gwneud penderfyniad gwybodus sy'n iawn i chi. Mae'r goblygiadau ariannol yn arbennig o bwysig a gallant fod yn gymhleth.
Byddant yn trafod opsiynau perthnasol gyda chi a allai gynnwys: (pwyntiau bwled i gysylltu ag adran berthnasol y llyfryn)
- Cymryd Blwyddyn i Ffwrdd
- Newid cwrs ym Mangor
- Gohirio Astudiaethau
- Trosglwyddo i Brifysgol arall
- Gadael y Brifysgol
Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol sy'n berthnasol i bawb megis y gweithdrefnau cyffredinol sydd angen eu hystyried fel: (pwyntiau bwled i gysylltu ag adran berthnasol y llyfryn)
- Ystyriaethau ariannol
- Ystyriaethau eraill wrth ohirio eich astudiaethau
- Sut i atal neu ohirio eich astudiaethau
- Ffynonellau cymorth eraill
Lawrlwythwch yr holl wybodaeth uchod yn ein llyfryn Meddwl am Adael.
Lawrlwythwch Gweithdrefnau ar gyfer Cymeradwyo Gohirio Astudiaethau.
Unwaith y byddwch wedi gwneud eich penderfyniad, bydd Wendy a Kim yn rhoi'r ffurflen berthnasol i chi, yn prosesu eich cais ac yn rhoi gwybod ichi am ddatblygiadau.
Mae croeso i chi alw heibio i weld y Tîm Cefnogi Myfyrwyr yn ystod oriau swyddfa:
Llawr 1af, Neuadd Rathbone
Dydd Llun – Dydd Gwener 9.00 – 16.30.
Er mwyn gwneud apwyntiad i weld Wendy neu Kim:
Ffôn: 01248 38 2005
E-bost: studentsupport@bangor.aangor.ac.uk
Cyfeiriad: Y Tîm Cefnogi Myfyrwyr, Gwasanaethau Myfyrwyr,
Llawr 1af, Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg, Bangor, LL57 2DF