Cyfres Ysgrifennu academaidd
Mae’r Ganolfan Sgiliau Astudio yn cynnal cyfres o saith gweithdy rhyngweithiol wedi'u hanelu’n bennaf at fyfyrwyr israddedig ond sydd hefyd yn berthnasol i ôl-raddedigion. Darpara’r gyfres hon, sy’n rhad ac am ddim, gyfle ymarferol i archwilio materion sy’n ganolog i’r broses o ysgrifennu’n academaidd, drwy drin a thrafod pynciau megis rheoli eich astudiaethau, defnyddio ffynonellau a dulliau beirniadol o ddarllen ac ysgrifennu, a thrafod ffyrdd o gynhyrchu a threfnu eich syniadau. Am amlinelliad llawn o’r gweithdai ewch i’n gwefan: http://studyskills.bangor.ac.uk/digwyddiadau.php.cy
Ysgrifennu academaidd 1: Rheoli eich astudiaethau
27.01.15 ac wedi’i ailadrodd ar 28.01.15 (2:00–3:30)
Mae’r gweithdy hwn wedi cael ei gynllunio i’ch helpu i feddwl yn strategol am y semester o’ch blaen, ac i ystyried cynllun ar gyfer rheoli eich amser.
Ysgrifennu academaidd 2: Sut ydw i am fynd i’r afael â hyn?
3.02.15 ac wedi’i ailadrodd ar 4.02.15 (2:00–3:30)
Ddim yn siŵr beth yn union mae cwestiwn eich aseiniad yn ei ofyn? Ddim yn siŵr sut i ddelio â’r cwestiwn? Mae’r gweithdy hwn yn canolbwyntio ar dechnegau y gallwch eu defnyddio i ganfod beth sydd angen ei wneud ar gyfer aseiniad, a chynllunio ymateb cychwynnol. Os ydych yn ei chael hi’n anodd cynhyrchu syniadau ar gyfer traethodau, dyma’r gweithdy i chi.
Ysgrifennu academaidd 3: Cymryd nodiadau a darllen i bwrpas
10.02.15 ac wedi’i ailadrodd ar 11.02.15 (2:00–3:30)
Yn y gweithdy hwn byddwn yn ystyried yr hyn sydd angen i chi chwilio amdano wrth i chi ddarllen, ac archwilio ffyrdd o grisialu gwybodaeth ar ffurf nodiadau. Bydd y gweithdy yn trafod sut i fod yn feirniadol a sut i gyfleu safbwynt.
Ysgrifennu academaidd 4: Aralleirio ac osgoi llên-ladrad
17.02.15 ac wedi’i ailadrodd ar 18.02.15 (2:00–3:30)
Mae’r gweithdy hwn yn edrych ar yr hyn a olygir wrth arfer da wrth ddefnyddio gwaith awduron eraill, ac mae’n cynnig nifer o ffyrdd i osgoi llên-ladrad. Rhoddir pwyslais penodol ar drafod ffyrdd o roi syniadau awduron eraill yn eich geiriau eich hun.
Ysgrifennu academaidd 5: Dechrau arni
24.02.15 ac wedi’i ailadrodd ar 25.02.15 (2:00–3:30)
Bwriad y gweithdy hwn yw rhoi hwb i’ch ysgrifennu drwy gyflwyno amrywiaeth o strategaethau ar gyfer cynhyrchu a chrisialu eich syniadau. Os ydych chi’n dueddol o ddileu mwy nag ydych chi’n ei ysgrifennu, neu’n syllu ar dudalen wag gan ddymuno nad oedd yn wag, yna bydd y gweithdy hwn o fudd i chi.
Ysgrifennu academaidd 6: Ysgrifennu’n feirniadol
3.03.15 ac wedi’i ailadrodd ar 4.03.15 (2:00–3:30)
Mae’r gweithdy hwn yn archwilio ffyrdd y gallwch chi gyflwyno eich dadl. Cewch gyfle i ymarfer dulliau o ddefnyddio eich syniadau chi a barn gwahanol awduron yn eich gwaith.
Ysgrifennu academaidd 7: Rhoi trefn ar eich syniadau
10.03.15 ac wedi’i ailadrodd ar 11.03.15 (2:00–3:30)
Mae’r gweithdy hwn yn archwilio technegau a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i lwybr cydlynol drwy eich ysgrifennu ac i’w drefnu yn y modd mwyaf effeithiol.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Ionawr 2015