Llwyddo mewn Arholiadau
Mae adolygu a dysgu yn mynd law yn llaw, a nawr yw’r amser delfrydol i feddwl am dechnegau adolygu sydd wedi, neu heb weithio i chi yn y gorffennol. Bydd gwneud hyn nawr yn eich galluogi i fod ar y blaen gyda’ch adolygu cyn y Nadolig.
Canolbwyntia’r gweithdy a gynhelir y prynhawn Mercher hwn am 3:10yp ar strategaethau adolygu y gallwch eu defnyddio nawr, ac ar dechnegau sy’n eich galluogi chi i gadw trefn ar y diwrnod arholiad ei hun.
Archebwch eich lle ar y gweithdy ‘Arbenigo mewn Arholiadau’ yma. Cewch hefyd hyd i adnodd rhyngweithiol sy’n gyfle i chi ystyried eich dulliau presennol o ymdrin ag adolygu cyn y sesiwn byw.
Cofiwch y gallwch hefyd archebu apwyntiad un-i-un i drafod adolygu ar gyfer arholiadau, cyn bapurau arholiad a straen arholiadau gydag un o’n Cynghorwyr Astudio.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Tachwedd 2020