Ysgrifennu Traethodau Gwell
Mae’r Ganolfan Sgiliau Astudio yn cynnal cyfres o weithdai wedi’u hanelu at eich helpu chi i adfyfyrio a datblygu eich dulliau o ymdrin â meysydd allweddol o astudiaeth academaidd. Mae’r gweithdai rhyngweithiol yn rhoi cyfle ymarferol i edrych ar y broses o ysgrifennu academaidd o’r camau cynllunio cychwynnol hyd at fireinio’r drafft terfynol. Mae croeso i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig.
Am fanylion pellach ewch i:
http://studyskills.bangor.ac.uk/workshops.php.cy?menu=2&catid=11091&subid=0
Cynhelir y gweithdai canlynol am 2 o’r gloch ar ddydd Mercher, yn Narlithfa 5, Prif Adeilad y Celfyddydau:
- Cynllunio Ysgrifennu (15 Hydref)
- Dulliau o ymdrin â chwestiynau traethawd (22 Hydref)
- Darllen beirniadol (29 Hydref)
- Aralleirio a Llên-ladrad (5 Tachwedd)
- Ysgrifennu beirniadol (12 Tachwedd)
- Ysgrifennu rhagarweiniadau gwell (19 Tachwedd)
- Ailddrafftio traethodau (26 Tachwedd)
- Golygu a phrawf-ddarllen (3 Rhagfyr)
- Gwneud eich gorau mewn arholiadau (10 Rhagfyr)
Dyddiad cyhoeddi: 2 Hydref 2014