Arholiadau ar y gorwel?
- Arholiadau ar y gorwel ond methu’n lân â mynd ati i adolygu?
- Methu’n lân â gwneud synnwyr o’r holl nodiadau darlith?
- Wedi hel gwybodaeth ynghyd ond yn ansicr sut i fynd i’r afael â nhw mewn modd ystyrlon?
Mae’r Ganolfan Sgiliau Astudio yma i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau a’ch adolygu ac rydym yn cynnal gweithdy rhyngweithiol ar ddydd Mercher 28ain Ebrill am 1:10yp i ganolbwyntio ar strategaethau adolygu y gallwch chi eu rhoi ar waith nawr, ac ar dechnegau sy’n eich galluogi chi i reoli diwrnod yr arholiad ei hun. Archebwch eich lle ar y gweithdy ‘Llwyddo gyda’ch Arholiadau’ yma. Wrth archebu, cewch hefyd hyd i adnodd rhyngweithiol sy’n rhagflaenu’r gweithdy sy’n gyfle i chi ystyried eich dulliau presennol o ymdrin ag adolygu cyn y gweithdy byw.
Hefyd, mae gan wefan y Ganolfan Sgiliau Astudio gyfres o ganllawiau ar-lein a thiwtorialau rhyngweithiol sydd wedi’u cynllunio i’ch helpu chi i lwyddo gyda’ch arholiadau. Cliciwch ar y canlynol i archwilio’r agweddau hyn ymhellach yn eich amser eich hun ac ar eich cyflymder eich hun:
Cofiwch y gallwch hefyd archebu apwyntiad unigol hyd at 50 munud i drafod adolygu ar gyfer arholiadau, cyn bapurau arholiad (gan gynnwys Mathemateg ac Ystadegau), a straen arholiadau gydag un o’n Cynghorwyr Astudio.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Ebrill 2021