Cael trafferth adolygu neu ysgrifennu?
- Arholiadau ar y gorwel ond methu’n lân â mynd ati i adolygu?
- Syllu ar dudalen wen a gofyn i chi eich hun pam mae'n dal yn wag?
- Syllu ar dudalen llawn geiriau a gofyn i chi eich hun pam nad ydynt yn gwneud synnwyr?
- Gwybod beth rydych chi am ei ddweud ond yn methu â'i ddweud? Ddim yn gwybod beth i’w ddweud?
- Methu deall am fod y fathemateg y tu hwnt i chi?
- Ar goll pan mae'n dod yn fater o wneud synnwyr o brofion-t a chi-sgwâr
- Wedi drysu wyneb yn wyneb â'r holl ddata?
Mae'r Ganolfan Sgiliau Astudio'n darparu apwyntiadau ysgrifennu unigol hyd at 50 munud a gwasanaeth Galw Heibio Mathemateg ac Ystadegau er mwyn eich galluogi i leddfu eich pryderon am eich aseiniad a’ch pryderon astudio. Gellir archebu apwyntiadau ar-lein neu dros y ffôn ar 01248 382689. Os ydych chi’n dymuno archwilio ffyrdd y medrwch chi osgoi llên-ladrad a defnyddio eich ffynonellau yn effeithiol ar gyfer eich aseiniadau rhowch gynnig ar ein cwis rhyngweithiol newydd. Hefyd, ewch i’n gwefan am lawer o wybodaeth i’ch helpu chi i lwyddo yn eich arholiadau: Cyngor arholiad; Sgiliau adolygu ar gyfer arholiadau a Pwysau (straen) arholiadau.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mawrth 2019