Cefnogi Myfyrwyr
Mae'r tîm Cefnogi Myfyrwyr yn aelodau profiadol o staff sy'n darparu cyngor, gwybodaeth ac arweiniad ar bob agwedd ar ymholiadau myfyrwyr. Rydym ni eisiau i chi fwynhau eich cyfnod yn y brifysgol a chael profiad g werth chweil, ac yma ym Mangor rydym yn rhoi gwybodaeth a chefnogaeth i chi a fydd yn eich galluogi gael y gorau o'ch amser yn y prifysgol. Mae’n bwysig na ddylai eich amser yma gael ei ddifetha gan bryderon neu ofidiau diangen.
Swyddfa Tai Myfyrwyr – taimyfyrwyr@bangor.ac.uk 01248 38 2034
Cymorth Ariannol – cymorthariannol@bangor.ac.uk 01248 38 3566/3637
Cymeryd egwyl o’ch astydiaethau – cefnogimyfyrwyr@bangor.ac.uk 01248 383707
Os nad ydych yn sicr pa wasanaeth yr ydych angen plîs e-bostiwch cefnogimyfyrwyr@bangor.ac.uk
- Gall y Tîm Cefnogi Myfyrwyr eich helpu gyda chyngor ariannol, yn cynnwys Cronfeydd Caledi a myfyrwyr yn gadael/gohirio eu hastudiaethau.
- Gall y Swyddfa Tai Myfyrwyr eich helpu i gael hyd i lety yn y Sector Rhentu Preifat.