Cefnogaeth Astudio
Mae’r Tîm Dyslecsia yn darparu cyngor a chefnogaeth i fyfyrwyr Prifysgol Bangor gyda dyslecsia a gwahaniaethau dysgu penodol eraill, megis dyspracsia, dyscalcwlia, sensitifrwydd gweledol, ac anhwylder diffyg sylw (ADS) / anhwylder diffyg sylw a gorfywiogrwydd (ADSG/ ADHD).
- Beth yw Dyslecsia?
- Beth yw Dyscalcwlia?
- Beth yw AD(H)D?
- Beth yw Dyspracsia?
- Beth yw Dysgraffia?
- Cefnogaeth Sgiliau Astudio Arebnigol Un-i-Un
Gallwn eich cefnogi gyda meithrin sgiliau dysgu a mynd i'r afael â gofynion astudio, naill ai ar sail reolaidd neu ar sail angen os ydych wedi'ch cofrestru â'r gwasanaeth a bod gennych gynllun cefnogi dysgu personol mewn lle.
I fyfyrwyr oddi ar y campws, gallwn gynnig cymorth astudio trwy dechnoleg gyfathrebu ryngweithiol, er enghraifft, Skype.
Mae myfyrwyr yn gweithio gyda thiwtoriaid arbenigol mewn sesiynau un-am-un unigol i ddatblygu sgiliau a strategaethau mewn amrywiaeth o feysydd astudio fel:
- Trefnu/ rheoli amser
- Ymdrin â darllen
- Cynllunio traethodau/ ysgrifennu academaidd/ golygu
- Adolygu/ dysgu ar y cof/ arholiadau
- Mathemateg/ ystadegau